Llanilltud Fawr – Llantwit Major

Darganfod Llanilltud Fawr

Dewch i ddysgu amdanon ni

Bu anheddiad Rhufeinig yma, a chaer o’r Oes Haearn ar yr arfordir gerllaw. Mae gan y dref hanes arbennig, ynghyd â strydoedd bach, nentydd, tai hynafol, a hi hefyd yw’r ganolfan siopa fodern ar gyfer yr ardal leol. Mae’n atyniad poblogaidd i ymwelwyr, ac yn lle arbennig i ymlacio a dadweindio.

Môr, cymuned, astudio, dathlu, cymdeithas – mae’r eglwys hynafol yma yn Llanilltud Fawr wedi chwarae rhan bwysig ac unigryw yn natblygiad Cristnogaeth ym Mhrydain. Cerddwch heddiw ar ben y clogwyni, yn y caeau neu ar y traeth ger y dref – dewch yn nes at y byd Celtaidd. Mae’r cerrig Celtaidd trawiadol yn amgueddfa’r eglwys yn cysylltu ymwelwyr ac ymholwyr heddiw â gweddïau a dysg traddodiad y seintiau cynnar. Mae Llanilltud Fawr yn lle delfrydol i encilio iddo neu i gymryd gwyliau.

Y Traeth a Llwybr Arfordir Cymru

O ddrws y Llyfrgell newydd gallwch weld y môr, ac mae’r traeth filltir i ffwrdd dros y caeau – mae tywod, creigiau trawiadol, pyllau, afon hyfryd i badlo ynddi, ogofâu, caffi ar y traeth a golygfeydd dros y dŵr i Ddyfnaint – a phopeth yn rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Yma mae Llwybr Arfordir Cymru, y llwybr arfordirol di-dor hiraf yn y byd, yn ymestyn dros nifer o filltiroedd o arfordir dilychwyn a naturiol, a golygfeydd syfrdanol.

Amgueddfa Cerrig Celtaidd

Mae’r Amgueddfa Cerrig Celtaidd wedi’i leoli yng Nghapel Galilea yn Eglwys Sant Illtud. Mae’r casgliad, sydd o bwys rhyngwladol, yn cynnwys colofn Samson, un o’r henebion arysgrifedig Cristnogol hynaf ym Mhrydain. Mae Croes Houelt/Hywel yn enghraifft arbennig o brydferth o ‘groes olwyn’. Mae’n un o drysorau Cymru.

Mynediad am ddim.

LLETYGARWCH

Roedd sefydliad cynnar yr eglwys gynnar yma yn croesawu ymwelwyr ac yn gweld cysylltiad rhwng traddodiadau ysbrydol a bywyd gweddi’r eglwys a bywyd bob dydd y dref a’r gymuned leol. Ein nod ni yw gwneud yr un fath heddiw. Fe gawsant enw fel un o’r prif ganolfannau dysg. Nod y Llyfrgell yw gwneud yr un fath.

Mae harddwch naturiol, diolch am ysbryd, traddodiad gweddi hir ac awydd deallusol dwfn yn golygu bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yma yn Llanilltud Fawr yn rhywbeth sy’n symud ac yn ysbrydoli ein gwaith cydweithredol.

Gallwch weld pa lety sydd ar gael i ymwelwyr yma: 
https://cy.visitthevale.com/towns/llantwit-major-the-glamorgan-heritage-coast

IONA TIR MAWR PRYDAIN

Mae’r prosiect wedi esgor ar sgyrsiau gyda rhai Aelodau o Gymuned Iona. Ailsefydlwyd yr abaty yn Iona yn yr 1930au gan George Macleod ar ynys anghysbell oddi ar arfordir yr Alban, ac felly mae ganddo leoliad trawiadol a hanes Celtaidd dwfn yn gyffredin â Llanilltud Fawr. Nod y Llyfrgell yw tystiolaethu i ymroddiad i gymuned gynhwysol a chyfiawnder cymdeithasol mewn ffordd debyg i’r hyn a welir ar Iona heddiw, gan sicrhau bod y ddirnadaeth hon a’r cysylltiadau hyn ar gael i’n trefi diwydiannol cyfagos, y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr, ac i bawb a ddaw i’n gweld.

Mae’r Barri, tref fwyaf Cymru, 7 milltir o Lanilltud Fawr

EGLWYS SANT ILLTUD

Mae’r eglwys yn cysylltu ymwelwyr â hanes gweddi, addoli a chymuned ar y safle. Adeiladwyd yr eglwys hynafol sy’n sefyll heddiw ger safle’r fynachlog a’r ganolfan ddysg wreiddiol. Yma cewch groeso cynnes, gweld murluniau o’r 13eg ganrif, ynghyd â rhai o’r enghreifftiau mwyaf teimladwy o waith carreg cerfiedig yng Nghymru. Mae’r eglwys yn lleoliad ar gyfer cyfarfodydd cymunedol, cyngherddau ac arddangosfeydd, ac mae’n croesawu nifer fawr o ymwelwyr bob blwyddyn o bedwar ban byd. Addolir yn yr eglwys yn rheolaidd, ac mae presenoldeb a chymuned boblogaidd a chynyddol ar-lein.

YMWELD Â'R LLYFRGELL

Bydd y Llyfrgell Newydd yn agor yn ffurfiol ym mis Mehefin 2021 ac mae’n croesawu ymwelwyr. Fe’i lleolir yn yr Hen Borthdy, sy’n un o adeiladau hynaf y dref. Mae’r Llyfrgell yn symbol o draddodiad Cristnogol sy’n rhydd, yn egnïol, yn greadigol, yn ymholi’n ddeallusol ac sy’n antur rymus sy’n cydgysylltu â’n bywyd personol a chymunedol cyfan.