Llanilltud Fawr – Llantwit Major

Casgliadau

Casgliadau'r Llyfrgell

Mae’r Llyfrgell yn cwmpasu nifer gynyddol o gasgliadau bach:

  • Llyfrgell Teyrnas y Nefoedd John Rogerson
  • Llyfrgell Trothwy Caldecott
  • Archif Coleridge yng Nghymru
  • Gwasg Beauchief Abbey

Mae’r Llyfrgell Newydd yn Ganolfan Gysylltiol i Ganolfan Astudiaethau Platoniaeth Prifysgol Caergrawnt.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n trafod caffael casgliadau pellach mewn perthynas â diwylliant, diwinyddiaeth, athroniaeth a Chymru, ynghyd â chasgliadau traws-ffydd.

LLYFRGELL TEYRNAS Y NEFOEDD

Mae llyfrgell Teyrnas y Nefoedd yn gasgliad canolog yn y Llyfrgell Newydd. Roedd y llyfrau’n perthyn i’r ysgolhaig Cristnogol a’r offeiriad Anglicanaidd J W Rogerson. Bu farw yn 2018 ac ers hynny mae casgliad personol John wedi’i rannu rhwng Asbury Theological Seminary yn yr Unol Daleithiau, Tyndale House, Caergrawnt a’r Llyfrgell Newydd yma yng Nghymru.

Mae casgliad y Llyfrgell Newydd yn canolbwyntio ar Deyrnas y Nefoedd yn athrawiaeth Iesu a’r hyn mae’n ei gynnig i gymdeithas ac i’r eglwys. Nod y traddodiad Cristnogol perthynol hwn, sydd wrth wraidd y llyfrgell yn Llanilltud Fawr, yw cadarnhau pobl fel bodau ysbrydol, ynghyd â chynnig gwybodaeth dda a syml a llefydd croesawgar er mwyn gallu archwilio’r cynnig hael mewn llawer o wahanol gefndiroedd ac ar draws ystod eang o draddodiadau crefyddol.

AM JOHN ROGERSON

Ganwyd John William Rogerson yn Llundain yn 1935 ac fe’i haddysgwyd yn Bec School, Tooting, yn y Joint Services School for Linguists, Coulsdon Common, ble cyflawnodd gwrs dwys mewn Rwsieg, ac ym Mhrifysgolion Manceinion, Rhydychen a Jerwsalem, ble astudiodd ddiwinyddiaeth ac ieithoedd Semitig. Fe’i hordeiniwyd yn 1964 a gwasanaethodd fel Curad Cynorthwyol yn Eglwys St. Oswald, Durham. Rhwng 1964 ac 1975 roedd yn Ddarlithydd, a rhwng 1975 ac 1979 yn Uwch Ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Durham cyn symud yn 1979 i fod yn Athro ac yn Bennaeth Adran Astudiaethau Beiblaidd ym Mhrifysgol Sheffield, gan ymddeol yn 1996. Fe’i gwnaed yn Ganon Mygedol yn Eglwys Gadeiriol Sheffield yn 1982 ac yn Ganon Emeritws yn 1995. Yn ogystal â nifer o draethodau ac erthyglau ysgolheigaidd, mae ei lyfrau cyhoeddedig yn cynnwys Myth in Old Testament Interpretation (1974), Psalms (Cambridge Bible Commentary, gyda J. W. McKay, 1977), Anthropology and the Old Testament (1978), Old Testament Criticism in the Nineteenth Century: England and Germany (1984), The New Atlas of the Bible (1985, a gyfieithwyd i naw iaith), W. M. L. de Wette. Founder of Modern Biblical Criticism. An Intellectual Biography (1991), The Bible and Criticism in Victorian Britain. Profiles of F. D. Maurice and William Robertson Smith (1995), An Introduction to the Bible (1999, 3ydd argraffiad 2012), Theory and Practice in Old Testament Ethics (2004), According to the Scriptures? The Challenge of using the Bible in Social, Moral and Political Questions (2007), A Theology of the Old Testament. Cultural memory, communication and being human (2009), The Art of Biblical Prayer (2011), On Being a Broad Church (2013), Cultural Landscapes and The Bible. Collected Essays (2014). Dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth am  ei weithiau cyhoeddedig gan Brifysgol Manceinion yn 1975, a rhoddwyd iddo hefyd Radd Anrhydeddus Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Brifysgol Aberdeen a Gradd Anrhydeddus Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Friedrich-Schiller-Universität, Jena ac Albert-Ludwigs-Universität, Freiburg im Breisgau.

Mae gwaith John Rogerson wedi cyrraedd cynulleidfa fyd-eang

Gan ysgrifennu am John Rogerson yn y Church Times, y DU, meddai'r diwinydd blaenllaw a'r ysgolhaig o Rydychen, yr Athro John Barton*

JOHN ROGERSON is an Old Testament scholar of amazing learning, versatility, and skill in exposition, notable also for his commitment to applying biblical insights to the demands of the modern world. Areas covered include social anthropology, sociology, the history of biblical interpretation (Rogerson probably knows more than anyone else in the English-speaking world about the history of German scholarship), philosophical issues relating to the Bible, and biblical translation. Everything is suffused by Rogerson’s academic rigour, philosophical sophistication, and, above all, commitment to social justice. For me, one of the most interesting points that Rogerson makes concerns the difference between German and British approaches to the Bible — arguably as evident now as it was in the 19th century, and a cause of much misunderstanding of “the Germans” in Anglo-Saxon theology and church life. Rogerson writes:

“It is personal experience of a liberating God, who can be glimpsed in the deepest feelings of the human soul, and in the processes of history, and whose reality is confirmed in the biblical record of God’s dealings with his people, which record is also a means whereby God becomes a living reality to the believer."

* John Barton, Church Times, 18 Medi 2015, t.18

LLYFRGELL TROTHWY CALDECOTT

Mae Llyfrgell Trothwy Caldecott yn gymunrodd a wnaed gan Leonie Caldecott er cof am ei diweddar ŵr, y diwinydd Catholig Stratford Caldecott.

Bu farw Stratford Caldecott yn 2014 gan adael llyfrgell fawr ar ei ôl, ac mae cyfran sylweddol o’r llyfrgell hon bellach wedi cael cartref yn y Ganolfan Treftadaeth Gristnogol yng Ngholeg Stonyhurst. Mae llawer iawn o’r llyfrau a’r adnoddau eraill a ddefnyddiwyd yng ngwaith Stratford a Leonie Caldecott bellach ar gael i gynulleidfa ehangach drwy’r Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr, ochr yn ochr â chasgliad Teyrnas y Nefoedd.

Roedd yr ystod o ddiddordebau a rannai Stratford a Leonie Caldecott am bron i bedwar degawd yn go eclectig, ac yn adlewyrchu sawl cyfnod yn eu hymholiad crefyddol gyda’i gilydd, ynghyd â’r perthnasoedd personol a ddatblygodd dros y blynyddoedd; er enghraifft, gyda’r bardd Kathleen Raine a’i chylch. Ceisiodd y cyfnodolyn Temenos, yr helpodd Kathleen Raine i’w greu, archwilio’r cyfoeth diwylliannol sydd wedi’i wreiddio yn y traddodiadau crefyddol mawr. Mae hwn, ynghyd â chyhoeddiadau eraill megis Parabola, Logos, Epiphany, a chyfnodolyn ffydd a diwylliant Stratford a Leonie Caldecott eu hunain, Second Spring, yn rhan o’r hyn a ystyrir yn ddeffroad modern traddodiad ‘doethineb’.

Mae casgliad Llyfrgell Trothwy Caldecott yn y Llyfrgell Newydd yn cynnig nifer fawr o adnoddau i’r sawl sydd ar daith grefyddol, yn ogystal â chyflwyniad i feddwl Stratford Caldecott a’r gwaddol byw a adawodd ar ei ôl. Nid gwaddol unllais mo hwn, ac nid yw wedi’i gyfyngu i un safbwynt crefyddol, oherwydd roedd ganddo ddiddordeb ym mhob un o’r llwybrau y mae pobl yn eu dilyn wrth geisio’r Gwirionedd yn ddiffuant. Canfu Stratford a Leonie Caldecott eu cartref ysbrydol yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ac fe gynhaliodd y ddau eu diddordeb angerddol ym mhob un safbwynt sy’n ceisio adennill y tir sanctaidd sy’n hanfodol i fywyd dynol ystyrlon.

Roedd Stratford Caldecott mewn deialog â phobl o nifer o wahanol draddodiadau ffydd, ac fe archwiliodd hefyd ystyron cysylltiadau gwyddonol, athronyddol ac esthetig â chrefydd. Mae’r llyfrau a’r cyfnodolion yn Llyfrgell Trothwy Caldecott yn adlewyrchu’r mannau cychwyn i daith Stratford a Leonie Caldecott ac maent yn dyst i ddiddordeb y ddau ym mhob ffynhonnell doethineb: o neo-Blatoniaeth i’r awduron Cristnogol modern, o gyfrinwyr yr Oesoedd Canol i syniadau’r traddodiad Tragwyddol. Mae’r llyfrau a geir yn y Llyfrgell Newydd yn drothwyon i’r gwir, y da, a’r prydferth: y perl drudfawr y buddsoddodd Stratford Caldecott ei fywyd ynddo.

AM STRATFORD CALDICOTT

Roedd Stratford Caldecott, MA (Oxon.), STD, FRSA, yn awdur, cyhoeddwr, a golygydd. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Dulwich a Choleg Hertford, Rhydychen. Gweithiodd am nifer o flynyddoedd fel Uwch Olygydd yn Routledge, HarperCollins, a T&T Clark, a gwasanaethodd ar fyrddau golygyddol CommunioThe Chesterton ReviewOasis, a’r Catholic Truth Society yn Llundain. Wedi sefydlu’r Ganolfan Ffydd a Diwylliant, trefnodd a siaradodd yn aml mewn cynadleddau, dysgodd mewn nifer o golegau a phrifysgolion, ac ysgrifennodd a chyhoeddodd yn eang am themâu diwylliannol, diwinyddiaeth ac apologiaeth Gristnogol. Fe’i cyhoeddwyd mewn llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd ar ddwy ochr Môr Iwerydd, gan gynnwys TouchstoneThis RockParabola, cylchgrawn Columbia, StAR, a’r National Catholic Register. Yn ei flynyddoedd olaf fe’i penodwyd yn Gymrawd G.K. Chesterton yn St Benet’s Hall, Rhydychen, a gweithiodd gyda’i wraig Léonie fel golygydd Magnificat, cyfnodolyn Second Spring, a Humanum, cyfnodolyn ar-lein y John Paul II Institute yn Washington DC, yr oedd yn olygydd sefydlol iddo. Yn 2013 dyfarnodd yr Institute ddoethuriaeth anrhydeddus iddo mewn cydnabyddiaeth i’w waith i’r Eglwys. Bu farw Stratford yn dilyn brwydr â chancr ar 17 Gorffennaf 2014.

Stratford Caldecott

‘Work’ gan Ford Madox Brown

ARCHIF COLERIDGE YNG NGHYMRU

Mae Archif Coleridge yng Nghymru yn archwilio tirwedd, estheteg, deallusrwydd, hunaniaeth, economi a chymuned fel y cânt eu mynegi mewn bywyd bob dydd, a hynny’n hanesyddol ac yn niwylliant cyfredol Cymru. Mae’n cynnwys llyfrau, papurau a gwaith celf a gasglwyd wrth greu a chyflwyno gŵyl Coleridge yng Nghymru yn 2016. Cychwynnodd y paratoadau ar gyfer yr ŵyl 80 diwrnod hon yn 2013, gan ymgysylltu â chymunedau, sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru i archwilio sut y gellid lleoli gwaddol gwaith anghofiedig yr awdur, y bardd, y newyddiadurwr, y diwinydd, y sylwebydd beirniadol a’r athronydd o’r 19eg ganrif, Samuel Coleridge mewn perthynas ddeinamig â thirwedd, cymuned a hunaniaeth yn niwylliant hanesyddol a chyfredol Cymru.

Cychwynnodd yr ŵyl deithiol a ddeilliodd o hynny yn 2016 gyda llong hwylio hanesyddol yn ymweld ag arfordir De Cymru fel llong yr ‘Ancient Mariner’, arddangosfa a darlithoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a chyfranogiad ar hyd a lled Cymru gan filoedd o bobl mewn pentrefi, trefi, dinasoedd ac o bob cefndir. Daeth i ben gyda gŵyl syniadau newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r archif yn dod â dathliadau a dirnadaeth newydd i ddiwylliant Cymru.

Beauchief Abbey Press

Mae’r Llyfrgell Newydd yn gartref i Beauchief Abbey Press. Mae’r wasg yn cefnogi rhaglenni addysgol, diwylliannol a chymunedol y Llyfrgell Newydd drwy gynnig mynediad cyhoeddus ac academaidd i weithiau ysgrifenedig a llyfrau o’r radd flaenaf ar draddodiadau Cristnogol perthynol. Mae llyfrau gwasg Beauchief Abbey wedi’u hanelu at gynulleidfa sydd â diddordeb mewn hanes, ysbrydolrwydd, eglwys a ffydd. Maent hefyd, yn hanfodol, ar gyfer pobl heb gysylltiad â thraddodiadau ffydd sy’n ceisio gwybodaeth dda a hygyrch am rôl ffydd a’r hyn mae’n ei gynnig i gymdeithas gyfoes, neu ar gyfer pobl o draddodiadau ffydd nad ydynt yn rhai Cristnogol sy’n ceisio dealltwriaeth am ddeinameg actif ffydd Gristnogol berthynol, draddodiadol.

Sefydlwyd Beauchief Abbey Press yn 2013 i greu llyfrau o natur ysgolheigaidd a defosiynol sy’n mynegi cynnig ymarferol diwinyddiaeth Gristnogol berthynol heddiw mewn diwylliant, cymdeithas a ffydd. Mae’n cynnwys llyfrau gan yr ysgolhaig Hen Destament o bwys rhyngwladol, John Rogerson ac yn cynnig deunyddiau darllen byr, gonest, agored, hygyrch a chyfredol.

Mae cyfres o adargraffiadau o glasuron yn sicrhau bod llyfrau gan awduron o’r gorffennol a oedd hefyd yn gwasanaethu’r themâu Cristnogol perthynol hyn ar gael i ddarllenwyr modern. Mae eu gweithiau, a’r gwersi a ddysgir o’r testunau hyn, yn parhau’n berthnasol i gymdeithas heddiw. Mae’r adargraffiadau hyn gan Beauchief Abbey Press yn tystiolaethu i ddiwylliant ffydd Beiblaidd cryf a oedd yn ceisio cryfhau dealltwriaeth, goleuedigaeth a chymodiad ymysg y cyhoedd.

Gweddi’r Llyfrgell:
Am bob trugaredd mawr a thirion, diolchwn i ti