Prosiect Tirweddau Ffydd
Mae prosiect Tirweddau Ffydd yn helfa drysor gymunedol i ddathlu traddodiadau ffydd y byd yng Nghymru, sef Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth, Hindŵaeth, Siciaeth, Bwdhaeth, Paganiaeth a’r safleoedd cynhanesyddol. Mae bryniau, dyffrynnoedd a gwastadeddau arfordirol De Cymru yn gyforiog o dreftadaeth ffydd gyfoethog, ac eto mae llawer o’r hanesion, y dreftadaeth, y safleoedd a’r chwedlau wedi’u colli neu eu cuddio.
Crëwyd y prosiect hwn gan Coleridge yng Nghymru ac Esgobaeth Llandaf i ddod â bywyd i Gynllun Gweithredu Twristiaeth Ffydd i Gymru Llywodraeth Cymru. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru, yr Allchurches Trust a’r Moondance Foundation. Mae’r prosiect wedi parhau ac wedi datblygu drwy argyfwng Covid-19 a bydd yn cyflwyno gŵyl Tirweddau Ffydd yn Ne Cymru ym mis Mehefin 2021 a fydd yn cynnwys pedair taith, pob un yn gorffen yn y Llyfrgell Newydd, Llanilltud Fawr.
Mae athroniaeth ein prosiect ynghyd â'i ddull o ymgysylltu cymunedol wedi dylanwadu ar gymunedau treftadaeth ffydd cenedlaethol Cymru o weithwyr proffesiynol, gweinidogion sifil a swyddogion yr eglwys. Mae prosiect Tirweddau Ffydd yn parhau â'i waith drwy'r Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr gan wasanaethu cymunedau rhanbarthol a rhwydweithiau cenedlaethol.
Mae gan Coleridge yng Nghymur brofiad o gynnal rhaglenni diwylliannol â phroffil lleol a chenedlaethol
Rhaglen Ddiwylliannol
Mae partner sefydlol y Llyfrgell Newydd, Coleridge yng Nghymru, wedi cynnull profiad aruthrol mewn dod â phobl ynghyd i greu digwyddiadau, cerddoriaeth, dathliadau a gwyliau. Byddwn yn defnyddio’r profiad hwn i ehangu a chyfrannu at fywyd diwylliannol presennol y dref.
Mae eglwys Sant Illtud eisoes yn lleoliad ar gyfer cyngherddau, sgyrsiau, digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol, ac mae llawer o lyfrau’r Llyfrgell Newydd yn ymdrin â phynciau estheteg, diwylliant a pherthynas mewn cymuned, felly bydd deialog ddiwylliannol y Llyfrgell Newydd yn cynnig cyfrannu at gelfyddyd, cerddoriaeth, cynulliadau, traddodiadau cymunedol, llenyddiaeth, dawns, perfformio a’r llais.
Dyma ffilm fer am rywfaint o’n gwaith, a ddatblygwyd dros rai blynyddoedd, sy’n dod â gwyliau Calan Gaeaf, yr Holl Eneidiau a’r Holl Saint ynghyd yn Ne Cymru:
Rhaglen Addysgol
Wrth i’r Llyfrgell Newydd dyfu a datblygu, bydd yn dod yn gartref i draddodiadau diwinyddol, cymdeithasol, ymarferol ac academaidd ymagwedd Cristnogaeth berthynol at fywyd. Mae’r gwaith yn ceisio:
- hybu treftadaeth ddeallusol ac academaidd casgliadau a thraddodiadau’r llyfrgell
- meithrin partneriaethau a chydweithrediadau gyda phrifysgolion a cholegau.
- cynnal a datblygu cynadleddau a symposia
- ehangu catalog gwasg Beauchief Abbey
- cynnal ymweliadau gan ysgolion a chynnig addysg i blant
- derbyn ymwelwyr a’u cyflwyno i’r casgliadau a gwaith y Llyfrgell
- cynnig ymgynghoriaeth ar draddodiad Cristnogaeth berthynol a’r hyn y maen ei gynnig heddiw
- cynnig hyfforddiant mewn sgiliau hwyluso i ganiatáu i bobl o bob cefndir, yn arbennig gweithwyr proffesiynol yr eglwys, ddeall sut gall hwyluso person-ganolog a chymuned gydblethu â diwylliant beunyddiol y gymdeithas bresennol a chynnig hanesyddol yr eglwys
- helpu cymunedau eglwysig unigol i feithrin hyder i ymwneud â’r traddodiad hwn
- cydblethu â chymuned a rhaglenni diwylliannol y Llyfrgell Newydd
Yn ein hwythnosau agoriadol, mae’n bleser garw gennym gyhoeddi y bydd y Llyfrgell Newydd yn Ganolfan Gysylltiol i Ganolfan Astudiaethau Platoniaeth Prifysgol Caergrawnt.
Prosiect Teithiau mewn Ffydd
Comisiynwyd prosiect Teithiau mewn Ffydd i annog eglwysi i feithrin hyder i wasanaethu fel yr eglwys wrth ymwneud â’u cymunedau a’u tirweddau lleol. Crëwyd y prosiect gan Coleridge yng Nghymru ac Esgobaeth Llandaf ac fe’i hariennir gan yr Allchurches Trust.
Mae’r Llyfrgell Newydd yn darparu traddodiad Cristnogol hygyrch sy’n pontio tirwedd ehangach ffydd a thystiolaethu wythnosol cymunedau addoli eglwysig. Mae’r Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr yn sicrhau bod traddodiad Cristnogol perthynol yn hygyrch i blant, teuluoedd a’r cyhoedd, a hefyd yn ymborth i ddiwinyddion proffesiynol, clerigwyr, cynulleidfaoedd, academyddion a gweithwyr proffesiynol o bob cefndir cyhoeddus. Mae’n ymdrin mewn ffordd gadarnhaol â thraddodiadau nad ydynt yn rhai Cristnogol yn ei rhaglenni traws-ffydd.
Drwy archwilio a dathlu tirwedd ffydd yn Ne Cymru, mae cymunedau'r eglwys yn dod yn ymwybodol, drwy brosiect Teithiau mewn Ffydd, bod yr hanesion a'r diwylliant a gaiff eu dathlu oddi mewn i'w hadeiladau eglwysig hefyd yn cael eu mynegi yn y dirwedd a'r hanes o'u cwmpas. Mae dathliadau cyhoeddus o draddodiadau ffydd mewn diwylliant ehangach yn annog cynulleidfaoedd a gweinyddwyr eglwysi i ddeall bod treftadaeth sylweddol o draddodiadau ffydd yn cael ei dal a'i mynegi'n eang mewn cymdeithas.
Mae prosiect Teithiau mewn Ffydd wedi arwain at sefydlu’r Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr.
Sgwrs Traws-ffydd
Mae’r Llyfrgell Newydd yn gartref i brosiect Tirweddau Ffydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n archwilio ac yn dathlu hanesion yr holl draddodiadau ffydd yn Ne Cymru. Mae stori’r ffydd Gristnogol i’w gweld yn glir ar dirwedd ac yn hanes Cymru, ond mae hanesion crefyddau mawr eraill y byd hefyd wedi’u gwreiddio yn niwylliant modern Cymru. Mae prosiect Tirweddau Ffydd yn hybu tystiolaeth a threftadaeth cymunedau ffydd y byd yng Nghymru heddiw.
Mae Archif Coleridge yng Nghymru y Llyfrgell yn cynnwys llyfrau ynghylch perthnasoedd traws-ffydd agored ac athroniaeth o gyfarfyddiad a deialog. Nod y Llyfrgell Newydd yw ceisio ymestyn y cyfarfyddiad a’r ddeialog gyda thraddodiadau ffydd nad ydynt yn rhai Cristnogol, gan wneud Llanilltud Fawr yn lle i groesawu a dathlu pobl o bob traddodiad ffydd. Mae casgliad Teyrnas y Nefoedd y Llyfrgell gan yr ysgolhaig John Rogerson yn ymdrin ag athroniaeth o brofiad, perthynas, cyfiawnder cymdeithasol, barddoniaeth ac estheteg, yn ogystal â hanes beirniadaeth Feiblaidd. Mae’r Llyfrgell yn croesawu ac yn ceisio deialog agored ac addfwyn gyda thraddodiadau ffydd o’r tu hwnt i Gristnogaeth er mwyn archwilio sut caiff deinameg y traddodiadau Cristnogol perthynol eu mynegi mewn ffyrdd gwahanol a chyferbyniol mewn traddodiadau eraill, er mwyn datblygu gwell deialog, dirnadaeth a dealltwriaeth yn y maes diwylliannol hwn.
Cymuned
Wrth ddysgu a thyfu, mae’r Llyfrgell Newydd yn mynd ati i gyfrannu mewn ffordd weithredol at fywyd y dref. Wedi sefydlu’r Llyfrgell yn yr Hen Borthdy o’r 13eg ganrif, mae’r prosiect eisoes yn sgwrsio â chymdogion, trigolion lleol ac ymwelwyr, ac mae wedi dechrau creu digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.
Mae rhaglenni addysgol a diwylliannol y Llyfrgell Newydd yn cyfrannu at y cynnig i ymwelwyr ac at economi’r dref. Rydym yn galw Llanilltud Fawr yn ‘Iona Tir Mawr Prydain’ ac yn dathlu profiad hanesyddol a chyfredol sy’n rhoi cyfleoedd i ymwelwyr a thrigolion fwynhau a chymryd rhan yn nhreftadaeth arbennig yr ardal.
Nod ein rhaglen gymunedol yw:
- cael ei siapio a’i arwain i raddau helaeth gan wirfoddolwyr
- annog trigolion lleol i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynnig y Llyfrgell Newydd ac eglwys Sant Illtud i ymwelwyr
- cysylltu profiadau ymwelwyr o’r eglwys a’r Llyfrgell Newydd â threftadaeth y dref a’r rhanbarth a’u chynnig hamdden
- cydblethu â rhaglenni diwylliannol ac addysgol y Llyfrgell Newydd
Mae’r Llyfrgell yn darparu dirnadaeth a phrofiadau o sut gall ffydd, deallusrwydd, cymuned a thwf personol ddod ynghyd yn yr 21ain ganrif. I bawb.
Croes garreg o’r 9fed ganrif yn yr Amgueddfa Cerrig Celtaidd, Capel Galilea, Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr
Traddodiad Cristnogol Perthynol - Cynnig i'r Cyhoedd
Mae’r Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr yn fynegiad o draddodiadau Cristnogol perthynol. Mae’r Llyfrgell yn ceisio gwasanaethu’r cyhoedd, a’r traddodiadau amlwg cyfredol sy’n dylanwadu ar eglwysi, gyda dirnadaeth weddigar ac ymarferol sy’n cynnig ymborth, cydymgynnull, ac ymgysylltu cyhoeddus ar brif wythïen cynnig a sefydliad yr eglwys.
Meddai’r ysgolhaig o America, C R Sanders, am y traddodiad disglair hwn,
“Where else in the history of human thought is there a more remarkable combination of Christian idealism with love of truth, devotion to liberty, and yearning for intellectual and social unity? Where else is to be found a more vigorous body of ideas and experience relative to these?”