CROESO
Mae’r Llyfrgell Newydd yn ganolfan ddiwylliannol ac yn genhadaeth ddiwylliannol egnïol i’r Deyrnas Unedig. Wedi’i lleoli yn Llanilltud Fawr, mae’n annog pawb i ymweld ac archwilio rhanbarth hanesyddol Llanilltud Fawr ac i ddarganfod treftadaeth ysbrydol arbennig yr arfordir a’r dref, ynghyd â’r hyn y maent yn ei gynnig heddiw.
Sefydlwyd coleg diwinyddol cyntaf Prydain yma 1500 o flynyddoedd yn ôl; mae’r Llyfrgell Newydd yn parhau â’r traddodiad Celtaidd hwnnw o ysgolheictod a chymuned yn y man hwn.
Mae’r fenter yn ymdrin â syniadau poblogaidd a sefyllfa grefyddol ein hoes, gan gynnig adnoddau ac anogaeth ar gyfer uchelgeisiau ysbrydol pobl ac eglwysi sy’n ei chael yn anodd canfod eu lle yn niwylliant Prydain fodern.
Mae’r Llyfrgell yn archwilio traddodiadol Cristnogol perthynol mewn ffyrdd sydd wedi’u gwreiddio yn y gymuned, sy’n ddeallusol egnïol, yn ddiwylliannol fywiog ac yn agored i ddeialog traws-ffydd. Mae’n llwybr llawen a ffres yn niwylliant ffydd Prydain sy’n cyflwyno cynnig i’r cyhoedd nad yw’n ffordd ganol, ond yn ffordd ddyfnach.
Yma fe gewch gynnig deallusol a diwinyddol o’r radd flaenaf, Amgueddfa Cerrig Celtaidd yr eglwys, rhaglen addysg ac encilio sy’n tyfu, tŷ cyhoeddi, rhaglen ddiwylliannol, cymuned weddi a chân mewn addoldy hardd a chynnig atyniadol Llanilltud Fawr i ymwelwyr yn cynnwys traeth, teithiau cerdded ar yr arfordir, tref hyfryd, cefn gwlad prydferth, hanes a threftadaeth.
CANOLFAN DDYSG GYNTAF PRYDAIN
Sefydlwyd y ganolfan ddysg gyntaf sydd wedi’i chofnodi ym Mhrydain yn Llanilltud Fawr. Dysgwch fwy am y fenter o’r 5ed ganrif ynghyd â’i dylanwad yn y darn byr hwn gan gyfres deledu boblogaidd y BBC ‘The Story of Wales’.
Gallwch fwynhau’r bennod awr o hyd yn ei chyfanrwydd, ynghyd â’r gyfres gyfan gan y BBC, yma ar BBC iplayer: BBC: The Story of Wales