AMDANOM NI
Mae’r Llyfrgell Newydd yn bartneriaeth rhwng eglwys plwyf Sant Illtud a’r cwmni hwyluso diwylliannol Coleridge in Wales Ltd. Gan weithio gydag Esgobaeth Llandaf rydym eisoes wedi creu ac wrthi’n cyflwyno prosiect Tirweddau Ffydd, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a phrosiect Teithiau mewn Ffydd a ariennir gan yr Allchurches Trust.
Ceisir partneriaid cyllido a buddsoddiadau newydd. (Link to DONATE)
Mae Llanilltud Fawr yn gymuned Gristnogol egnïol a chroesawgar sy’n cynnal traddodiad o addoli sy’n ymestyn yn ôl 1,500 o flynyddoedd.
Eglwys Sant Illtud
Mae hanes yr eglwys yn Llanilltud Fawr yn rhan bwysig o ddatblygiad Cristnogaeth yng Nghymru. Tua’r flwyddyn 500 AD sefydlodd dyn o’r enw Illtud fynachlog yma. Fe ddaeth yn ganolfan o bwys, y sefydliad dysg hynaf ym Mhrydain y mae gennym gofnod ohono. Denodd y gymuned hon bobl o bellteroedd mawr. Dywedir bod Dewi, nawddsant Cymru, wedi astudio gydag Illtud yn Llanilltud Fawr cyn sefydlu ei eglwys yng Ngorllewin Cymru. Aeth disgyblion a dilynwyr Illtud ymlaen i adeiladu cymunedau eglwysig bychain ar hyd a lled Cymru.
Mae cymuned addoli heddiw yn estyn croeso cynnes i bob ymwelydd. Cynhelir gwasanaethau wythnosol yma ymysg cerrig cerfiedig a phaentiadau manwl o’r 13eg ganrif, ac mae’r efengyl draddodir yn hygyrch i eneidiau’r oes hon. Bellach defnyddir yr Eglwys Orllewinol fel gofod cymunedol, lleoliad cyngherddau, ffreutur, ardal groesawu a neuadd ddarlithio. Agorodd casgliad Llanilltud Fawr o gerrig Celtaidd, sydd o bwys rhyngwladol ac a ddarganfuwyd ar y safle, i’r cyhoedd yn 2013 yng Nghapel Galilea a ailadeiladwyd, yn dilyn datblygiad £635,000 drwy gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae’n gynulleidfa actif sy’n edrych tuag allan ac sydd wrth eu boddau’n rhannu treftadaeth yr hanes Celtaidd rhyfeddol sy’n parhau i ddenu ac ysbrydoli pobl heddiw.
Coleridge yng Nghymru
Mae Coleridge yng Nghymru yn gwmni nid-er-elw sy’n cyflwyno prosiectau diwylliannol ac yn dadlennu posibiliadau newydd mewn bywyd cyhoeddus, busnes, addysg, cymuned, amgylchedd a llesiant. Mae’n fenter sy’n datrys problemau a chanddi ymagwedd gyfannol, sy’n creu gofod diwylliannol a deialog ble gall pethau newydd ddigwydd. Mae’r tîm wedi creu a chyflwyno prosiectau ar gyfer y llywodraeth, awdurdodau lleol, busnesau mawr, mentrau bychain, cymunedau, elusennau a sefydliadau ymgyrchu. Perthnasoedd newydd. Hyder newydd.
Yn 2016 gofynnodd Esgobaeth Llandaf i Coleridge yng Nghymru am help i ddatblygu eu cenhadaeth. Arweiniodd y cydweithio a ddilynodd at brosiect Teithiau mewn Ffydd, a ariennir gan yr Allchurches Trust. Mae Coleridge yng Nghymru wedi creu mentrau sy’n ceisio helpu’r eglwys i ganfod mwy o hyder i wasanaethu fel yr eglwys yn y dirwedd ddiwylliannol amrywiol gyfoes. Mae’r gwaith yn galw am arbenigedd mewn athroniaeth, diwinyddiaeth, perthynas a diwylliant. Nid sefydliad crefyddol yw Coleridge yng Nghymru, ond mae’n cynnig hwyluso diwylliannol. Yn nhraddodiad Samuel Taylor Coleridge, a oedd yn ddiwinydd disglair ac arwyddocaol o Brydain, ac wedi’n hysbrydoli gan lwybr yr ysgolhaig o Brydain, John Rogerson, mae ymagwedd Coleridge yng Nghymru at ffydd a deialog traws-ffydd yn seiliedig ar ddirnadaeth ddiwyiyddol a diwylliannol gadarn.
Cyflwynodd Coleridge yng Nghymru ŵyl genedlaethol 80 diwrnod ledled Cymru yn 2016
“Dyw'r prif draddodiadau eglwysig presennol ddim yn anghywir; mae'r traddodiad Efengylaidd yn hawlio'r hufen iâ, a'r Eingl-Gatholigion yn dal y conau yn eu dwylo, ond does yr un ohonyn nhw'n camu ymlaen gyda'i gilydd i gynnig y lluniaeth sydd ei hangen ar y cyhoedd, a does neb wedi meddwl o ddifrif am y cyfleoedd gwirioneddol a geid pe ceid gafael ar fan hufen iâ.”
Y STORI HYD YMA
Rydym wedi ffurfio partneriaeth waith. Y daith hyd yma:
- datblygu Capel Galilea yn amgueddfa cerrig Celtaidd o safon fyd-eang gyda Grant £635,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Tirweddau Ffydd
- sicrhau cyllid gan yr Allchurches Trust ar gyfer prosiect Teithiau mewn Ffydd
- sefydlu’r Llyfrgell Newydd yn yr Hen Borthdy yn Llanilltud Fawr, adeilad prydferth o’r Oesoedd Canol, sy’n agos at yr eglwys
- dod i feddiant llyfrau i greu Llyfrgell Teyrnas y Nefoedd a Chasgliad Trothwy Caldecott
- sicrhau cartref i archif Coleridge yng Nghymru
- archwilio caffael rhagor o gasgliadau Cymraeg, Cernyweg a Gaeleg
- cychwyn y rhaglen ddiwylliannol a chymunedol
- dod yn ganolfan gysylltiol â Chanolfan Astudiaethau Platoniaeth Prifysgol Caergrawnt