13 Hydref 2022 , 12.15yp – Llanilltud Fawr – Cynhadledd Paul Tillich Heddiw
LANSIAD LLYFR:
Ar y Ffin, Paul Tillich
CYFIEITHU GAN JOHN HEYWOOD THOMAS
Dyma’r cyntaf o weithiau Tillich i ymddangos yn y Gymraeg
Roedd Paul Tillich yn un o ddiwinyddion mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Roedd yn un o’r cyntaf i feirniadu Hitler. Fe’i gorfodwyd i adael ei swydd yn y brifysgol gan y Llywodraeth Natsïaidd yn 1933, ac ymfudodd i America ble daeth yn ffigur diwylliannol cyhoeddus, gan ymddangos ar glawr cylchgrawn Time yn 1959.
Gwaith Tillich oedd testun doethuriaeth Martin Luther King. Er gwaethaf dylanwad rhyngwladol Tillich, ychydig o ymwybyddiaeth sydd o’i waith ym Mhrydain. Cyfieithwyd y cyhoeddiad hwn o hunangofiant deallusol Tillich, Ar y Ffin, gan gydweithiwr i Tillich, yr athronydd John Heywood Thomas. Mae diwylliant deallusol Lloegr yn ymrafael ers dau gan mlynedd bellach â’r hyn y mae’n aml yn ei alw yn ‘athroniaeth y Cyfandir’. Nid yw’r broblem hon yn bodoli yng Nghymru. Mae hunangofiant deallusol Paul Tillich yn siarad â ni am y gofod rhwng pegynau bywyd. Gwyddwn lawer eisoes am Gymru rhwng pegynau. Gallai Cymru a’r llyfr hwn fod yn ffrindiau.
Lansiad: 13 Hydref 2022
ISBN: 9780993549939
RRP: £9.99
Rhwymiad: Clawr Meddal
Maint: 148mm x 210 mm
Tudalennau: 127
Diwilliant