Llanilltud Fawr – Llantwit Major

CYNHADLEDD: PAUL TILLICH HEDDIW – DAU WREIDDYN Y MEDDWL GWLEIDYDDOL (rhagymadrodd)

English

Y Llyfrgell Newydd, Llanilltud Fawr, Cymru, ar y cyd â Phrifysgol Bath Spa, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Astudiathau Platonaidd Prifysgol Caergrawnt

Paul Tillich Heddiw – Dau Wreiddyn y Meddwl Gwleidyddol (rhagymadrodd)

12 – 14 Hydref 2022

Rhaglen y Gynhadledd

 

Roedd Paul Tillich (1886-1965) yn feirniad cynnar o Natsïaith yr Almaen, yn fwyaf amlwg yn ei gyhoeddiad yn 1933, Die Socialistiche Entscheidung (Y Penderfyniad Sosialaidd). Cafodd y llyfr ei wahardd, a chafodd Tillich ei omedd rhag gweithio ym mhrifysgolion yr Almaen. Yna, gadawodd Tillich yr Almaen i’r Unol Daleithiau, ac er iddo fod yn un o ddiwinyddion ac athronwyr mwyaf nodedig yr 20fed ganrif, ni ymddangosodd y testun tyngedfennol hwn mewn cyfieithiad i’r Saesneg tan 1977.

Mae’r llyfr yn agor gyda deg tudalen ragarweiniol sylweddol o’r enw ‘The Two Roots of Political Thought’, sy’n cynnig dadansoddiad dwys o wreiddiau athronyddol ac ontolegol y cyflwr dynol, a sut mae’r rhain yn achosi amwysedd ym mhrofiad dynol, diwylliant, perthnasoedd a gwleidyddiaeth. Cynniga lluniad grymus o’r perthnasau rhwng sosialaeth, Marcsiaeth, safbwyntiau blaengar, ceidwadol, a chyfalafaidd, sydd wedi’u seilio ar chwedlau tarddiad. Mae Tillich yn amlinellu disgrifiad hynod glir o wreiddiau ffasgaeth, gan gyfleu’r sefyllfa ddynol fel argyfwng, lle cawn ein rhwygo rhwng y myth o’n tarddiad a’r hawliau cysylltiedig, a gofynion yr hyn y dylem fod.

Mae Tillich yn datrys yr argyfwng gyda’r un iaith athronyddol a luniodd y broblem ynddi, gan ddangos yr angen dynol i gydnabod yr argyfwng, ac i wneud penderfyniad i weithredu dros gyfiawnder. Er nad yw iaith diwinyddiaeth yn amlwg yn y deg tudalen ragarweiniol hyn, mae’r testun cyfan yn datblygu mewn modd sydd yn awgrymu ac yn adlewyrchu dylanwad y system ddiwinyddol aeddfed y byddai’n datblygu’n ddiweddarach gyda Tillich.

Unwaith yr oedd wedi gadael yr Almaen, ni ddychwelodd Tillich at ysgrifennu gwleidyddol nodedig, ac nid yw’r dadansoddiad hwn o ffasgiaeth yn 1933 a’i pherthynas â meddwl cymdeithasol, democrataidd a cheidwadol yn hysbys iawn. Gyda phoblyddiaeth brau a bas bellach wedi bwrw gwreiddiau eto, ac yn ddylanwadol yn niwylliant gwleidyddol yr 21ain ganrif, mae’r gynhadledd hon yn ceisio gosod gwaith Tillich gerbron i’r gymdeithas gyfoes.

Rydym yn croesawu papurau sy’n ymwneud â ‘The Two Roots of Political Thought’ o safbwyntiau gwleidyddol, epistemolegol, seicolegol, athronyddol, diwinyddol ac addysgiadol. Croesewir dulliau rhyngddisgyblaethol wrth inni geisio cysylltu dadansoddiad Tillich o’i sefyllfa wleidyddol â’n hoes ni.

  • Cyd-destun a chynnwys meddwl gwleidyddol cynnar Tillich
  • Ysgrifau Tillich mewn perthynas â gweithiau eraill ‘sosialaeth grefyddol’ dechrau’r ugeinfed ganrif
  • Dadansoddiad Tillich o’r ‘ddau wreiddyn’ mewn perthynas â diwinyddiaeth wleidyddol ac athroniaeth Schmitt a Heidegger
  • Dylanwad meddwl gwleidyddol Tillich ar ddirfodaeth a damcaniaeth feirniadol (yn enwedig Ysgol Frankfurt)
  • Perthynas meddwl gwleidyddol cynnar Tillich â’i waith diwinyddol ac athronyddol diweddarach
  • Perthnasedd dadansoddiad Tillich i sefyllfa’r unfed ganrif ar hugain, yn enwedig y ddealltwriaeth o Ffasgaeth a’r gwrthwynebiad iddi
  • Dylanwadau meddwl Tillich fel y’i fynegir yn niwylliant Cymru

Cynhelir y gynhadledd yn Y Llyfrgell Newydd, Llanilltud Fawr, Cymru. Sefydlwyd coleg diwinyddol cyntaf Prydain yma 1500 o flynyddoedd yn ôl; mae’r Llyfrgell Newydd yn parhau â’r traddodiad Celtaidd hwnnw o ysgolheictod a chymuned yn y lle hwn heddiw: Llyfrgell Newydd

Bydd y gynhadledd academaidd hon Paul Tillich Today – The Two Roots of Political Thought (introduction) yn rhan o ddigwyddiad diwylliannol mwy ym mis Hydref 2022 sy’n archwilio perthnasedd a chymhwyso dadansoddiad gwleidyddol Tillich i ddiwylliant cyfoes Cymru.

The intellectual defence of Anglo-Saxon civilisation against fascist ideologies is extremely weak. Common-sense philosophy and pragmatism are not able to provide criteria against the dynamic irrationalism of the new movements; and they are not able to awaken the moral power of resistance necessary for the maintenance of the humanistic values embodied in Western and Anglo-Saxon civilisation.

Paul Tillich, Morality and Beyond, 1963

Y cynullwyr:

Dr Huw Williams: williamsh47@caerdydd.ac.uk

Dr Russell Re Manning: r.remanning@bathspa.ac.uk

Richard Parry: waverleymusic@live.co.uk

Cofrestru ar gyfer y Gynhadledd: £180

(delwedd: Chris Glynn)