Llanilltud Fawr – Llantwit Major

John Heywood Thomas 1926 – 2025

John Heywood Thomas 1926 – 2025

Mae’r Llyfrgell Newydd wedi dysgu am farwolaeth ein cyfaill, yr Athro John Heywood Thomas, a hunodd ddoe (6 Ebrill 2025) yn 98 oed.

 Ganwyd John yn Llanelli ym 1926. Bu’n dysgu ym Mhrifysgol Durham a Phrifysgol Manceinion cyn dod yn Bennaeth Diwinyddiaeth ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor dros y Celfyddydau ym Mhrifysgol Nottingham. Fe’i hystyriwyd yn un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Prydain ar Kierkegaard. Bu’n dysgu yn America ochr yn ochr â’r diwinydd a’r athronydd Paul Tillich, ac fe gyfeiriodd Tillich yn serchog at John fel ei ‘feirniad rhesymegol’. Daliodd John ati gyda’i waith wedi ymddeol ac fe fu’n ysgolhaig brwd, yn athro, yn bregethwr, yn anogwr ac yn gyfaill annwyl i nifer o bobl hyd at ei farwolaeth. Rydym yn ddiolchgar am fod wedi cael y cyfle i dreulio amser gyda John ac i ymgymryd â’r prosiectau a wnaethom ar y cyd. Bydd colled fawr ar ei ôl a bydd ei fywyd eithriadol a’r anogaeth a roddai bob amser yn dal yn ein cof gyda diolch o waelod calon.

Yn un o gefnogwyr brwd y Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr ers ei sefydlu yn 2021, fe roddodd John sgyrsiau a darlithoedd rhagorol, a thrwy wahoddiad y Llyfrgell ef luniodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf erioed o unrhyw un o weithiau ei gydweithiwr a’i gyfaill Paul Tillich. Cyhoeddwyd cyfieithiad John o hunangofiant deallusol Tillich, Ar Y Ffin, yn 2022.

 Wedi ymddeol, bu John yn byw yn Nhresimwn gyda’i wraig Mair, a fu farw yn 2021. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a chyfeillion John ar yr adeg hon.

The New Library has learned of the death yesterday (6th April 2025) of our friend Prof. John Heywood Thomas, at the age of 98.

John was born in Llanelli in 1926. He taught at Durham University, Manchester University becoming Head of Theology and Pro-Vice Chancellor for the Arts at Nottingham University, and was widely acknowledged as one of Britain’s leading Kierkegaard scholars. He taught in America alongside the theologian and philosopher Paul Tillich, with Tillich affectionately calling John his ‘logical critic’. John continued his work after retiring and has been an active scholar, teacher, preacher, encourager and warm friend to many people right up to his death. We are grateful for the time and projects we have undertaken with John. He will be sadly missed and his extraordianry life and encouragennt will be remembered with deep gratitude.

An enthusiastic supporter of the New Library in Llantwit Major since its founding in 2021 John has given outstanding talks and lectures, and at the invitation of the Library made the first Welsh translation of writitng by his colleague and friend Paul Tillich. John’s translation of Tillich’s intellectual autobiograohy On The Boundary, titled Ar Y Ffin, was published in 2022.

In retirement John lived in Bonvilston with his wife Mair, who died in 2021. Our sincere condolences, thoughts and prayers are extended to John’s family and friends at this time.

John yn gweithio ar lawysgrif ar gyfer llyfr yn 2022